yn ei hardal enedigol, a pharhaodd yn aelod ffyddlawn o'r ysgol yn Mryncrug tra y parhaodd ei nerth corfforol i allu cerdded iddi. Nid oedd hyn ond ffrwyth naturiol ei chwaeth arbenig at wybodaeth ysgrythyrol. Yr ydym yn gweled plant Duw, fel plant dynion, yn dra amrywiol yn eu chwaeth. Gwelir hyn yn eglur yn amrywiaeth eu chwaeth at wahanol ordinhadau crefydd. Teimla llawer—mwyafrif mawr yr atdyniad a'r mwynhad penaf mewn gwrando pregethu y gair—eraill a'i teimlant yn nefosiwn y cyfarfod gweddi—eraill yn ngwefreiddiadau nefolaidd caniadaeth y cysegr—eraill drachefn yn nghylch teuluaidd y cyfarfod eglwysig. Felly hefyd y chwaeth at wybodaeth Feiblaidd, at "ddidwyll laeth y Gair" ysbrydoledig, cyfeiria y chwaeth hwn at yr Ysgol Sabbothol, fel y baban at y fron. Yr Ysgol Sabbothol, yn ddiddadl, ydyw y fwyaf cymwys ac effeithiol o holl ordinhadau crefydd Crist tuag at greu, cryfhau, a lledaenu y chwaeth at "wybod yr Ysgrythyr Lân," yn enwedig yn ei ffurf oll-gynwysol Gymreig, fel ei sefydlwyd gan Mr. Charles.