sanctaidd trwy yr holl dorf. Ond i goroni pob defnydd da arall a wnaeth Mary Jones o'r Beibl hwnw o'r dydd y prynasai ef, amlygai trwy ei holl fywyd dilynol lawn cymaint o ymdrech i'w fyw ag a wnaethai ar y cyntaf i'w feddianu.
PENOD VII.—Zel Genhadol Mary Jones a'i Gwenyn.
TREULIODD Mary Jones y rhan olaf o'i gyrfa ddaearol yn Mhentref Bryncrug, gerllaw Towyn Meirionydd. Amlygai hyd ei marwolaeth y dyddordeb dyfnaf yn y Gymdeithas ogoneddus yr oedd y fath gysylltiad dyddorol rhwng ei hanes personol hi ei hun â'i sefydliad cyntaf, ac hefyd yn Nghymdeithas Genhadol y Cyfundeb Methodistaidd y perthynai iddo. Yr oedd yn enwog am liosogrwydd ei gwenyn, a rhagoroldeb ei mêl a'i chwyr gwenyn. Defnyddiai ei derbyniadau blynyddol oddiwrth y mêl at ei chynaliaeth ei hun a'i theulu,