Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a chysegrai arian y cwyr yn gyfartal rhwng y. ddwy Gymdeithas—y Feiblaidd a'r Genhadol. Ar dymor ffodus, byddai yr arian hyny yn swm mawr oddiwrth wraig yn ei sefyllfa dlawd hi. Ni chlybuwyd am neb erioed ar delerau mwy cyfeillgar gyda'r trychfilod bychain gwenwynig, dialgar, a gasglent eu mêl iddi. Pa bryd bynag y talai ymweliad â'u lluaws pebyll yn yr ardd, cyd-groesawent hi â'r warogaeth fwyaf brwdfrydig a brenhinol. Ehedent yn fyddinoedd yn y fan i'w chroesawu. Gwibient yn lluoedd llawn o yni o'i hamgylch; a cherddent wrth y canoedd ar hyd-ddi o'i phen i'w thraed yn gwbl ddiofn a diniwed. Daliai ddyrnaid o honynt ar gledr ei llaw mor ddibryder a phe buasent yn wybed cyffredin. O'r myrddiynau gwenyn a fuasent yn casglu eu mêl iddi, ac yn ymbleseru yn gwibio ar hyd ei pherson, ni cholynodd cymaint ag un hi erioed, tra y colynent ymyrwyr eraill yn ddiarbed. Ei hesboniad hi ei hun ar y ffaith hynod hon, ac hefyd ar y ffaith eu bod oll mor ddiwyd a gofalus yn casglu y mêl puraf a phereiddiaf iddi, oddiar y blodau mwyaf