Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

detholedig, oedd, eu bod i'w priodoli i'w zel genhadol i'r ffaith eu bod oll yn ymwybodol yr arferai hi gysegru rhan helaeth o ffrwyth eu diwydrwydd hwy i wasanaeth eu Crewr hwy a hithau, a'u bod, oherwydd hyny, yn cyfrif ei gwasanaethu hi yn wir fraint ac yn wir hyfrydwch. Yr oeddynt oll, fel hithau, yn llawn "ysbryd cenhadol." Pan wnaed y casgliad yn Mryncrug, yn 1854, at y miliwn Testamentau i China, cafwyd ymysg yr arian un haner sofren felen. Ofnid mai mewn amryfusedd y rhoddasid hi yn lle y darn arian gwyn o'r un maintioli. Ond cafwyd allan iddi gael ei rhoddi mewn perffaith ymwybyddiaeth o'i lliw a'i gwerth, a hyny gan y "weddw dlawd" Mary Jones. Ei gwenyn zelog a'i galluogodd i'w rhoddi.

Ond nid at Air Duw yn unig y dangosai ei wasanaethferch gywir hon ei chariad; ond "hoffai hefyd drigfan ei dy, lle preswylfod ei ogoniant." Hynodai ei hun trwy ei hoes am ei chysondeb ymhob rhan o wasanaeth y cysegr, ac am y gwleddoedd ysbrydol a fwynhai ynddynt oll.