Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Edrychwn ar y cyfrif rhwng Mary Jones a'i Beibl fel engraifft, ac yn gyntaf ar ei hochr hi i'r cyfrif. Gorchest nodedig cariad at y Beibl oedd ei thaith gofiadwy i'r Bala i'w brynu—y Beibl cyntaf ac olaf a brynodd erioed iddi ei hun. Wedi llwyddo i'w gael, gwelsom iddi deimlo yn y fan "yn llawen o'i blegyd, fel un wedi cael ysglyfaeth lawer." Ymroddai gartref i "chwilio ei ysgrythyrau" am y wybodaeth ddwyfol oedd ynddynt, fel y wenynen am y mêi. Yn ei golwg hi "mwy dymunol oeddynt nag aur, ac nag aur coeth lawer;" i'w harchwaeth hi, "melusach hefyd na'r mêl, ac na diferiad diliau mêl." Felly y "glanhâi y llances hon ei llwybr, wrth ymgadw yn ol gair" ei Beibl. "Ei dystiolaethau oedd ei hyfrydwch a'i chynghorwyr." "Dryllid ei henaid gan awydd i'w farnedigaethau bob amser." "Cymerodd ei orchymynion yn etifeddiaeth dros byth, oherwydd llawenydd ei chalon oeddynt." Wrth ei gweled yn ei blynyddau diweddaf, â'i ffon mewn un llaw, a'i hen Feibl dan ei chesail arall, yn cyfeirio ei chamrau byrion tua'r ysgol