Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Sabboth, gallasech edrych ar bob cam a roddai tuag yno fel yn dywedyd yn ei iaith, "Dy ddeddfau yw fy nghân yn nhŷ fy mhererindod." Bu farw a'i hen Feibl—hoffaf gyfaill ei bywyd—ar y ford yn ei hymyl.

Ond pa ad-daliad a roddodd ei Beibl iddi am ei llafurus gariad hwn" tuag ato? Mor gynted ag y talodd i Mr. Charles am dano, ac y cofleidiodd ef fel ei Beibl ei hun, gwelsom iddo yn y fan lanw ei mynwes â llawenydd angerddol nas teimlasai ei gyffelyb erioed o'r blaen. Wrth lafurio trwy ei blynyddau boreuol, wedi hyny yn ei ddarllen, ei chwilio, a thrysori ei benodau yn ei chof, buan y rhoddai iddi brofion parhaus mai "sicr iawn yw ei dystiolaethau, ac o'u cadw fod gwobr lawer." Wedi cychwyn ar ei gyrfa trwy lwybrau troellog, pyllog, niwlog bywyd, profai iddi o werth anmhrisiadwy fel "llusern i'w thraed, a llewyrch i'w llwybrau." "Ei gyngor a'i cynhaliai, a'i synwyr a'i cadwai" trwy holl demtasiynau a phrofedigaethau y byd, Pan nad oedd eto ond geneth ieuanc ddibrofiad, profodd yn "abl i'w gwneuthur yn ddoeth i