Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iachawdwriaeth." Coronodd ei holl ad-daliadau eraill iddi trwy ei dwyn i gydnabyddiaeth bersonol â'i Awdwr—Duw. Yn Dduw holl-gyfoethog, gwnaeth Ef â hi y ffafr o'i mabwysiadu yn blentyn iddo ei hun. "Rhoddodd iddi yn ei dŷ, ac o fewn ei fagwyrydd, le ac enw gwell na meibion ac na merched—enw tragwyddol, yr hwn ni thorid ymaith." Gydag adnodau cyfoethog ei Beibl a drysorasai yn ei chof, mynych yr arlwyai iddi "wledd o basgedigion—gwledd o loew win, o basgedigion breision a gloew win puredig." Ond "os plant, etifeddion hefyd." Yn eneth dlawd o bob peth a eilw y ddaear hon yn fawr, gwnaeth Ef hi "yn etifeddes iddo ei hun, ac yn gyd-etifeddes â Christ." Rhoddai iddi hawl "i etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, ac yn nghadw yn y Nefoedd iddi," a hithau ei hun yma ar y ddaear yn nghadw "trwy allu Duw" i'w hetifeddiaeth, fel y byddai yr etifeddes ai hetifeddiaeth yn nghadw yn sicr trwy yr un gallu dwyfol i'w gilydd. Oherwydd ei pherthynas newydd ag Ef, fel "merch y Brenin,"