dyrchafodd hi i gylchoedd uchaf ei deyrnas ei hun—"i Fynydd Sïon, i Ddinas y Duw byw, y Jerusalem nefol, at fyrddiwn o angylion, i gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf-anedig. y rhai a ysgrifenwyd yn y Nefoedd, ac at Dduw, Barnwr pawb, ac at ysbrydoedd y cyfiawn, y rhai a berffeithiwyd, ac at Iesu, Cyfryngwr y Testament Newydd." Cylchoedd cymdeithasol ydyw y rhai hyn y gallai breninesau y ddaear yn hawdd genfigenu wrth yr eneth dlawd a ddyrchafasai Duw iddynt. Gan faint ei ofal tadol drosti, "gorchymynai i'w angylion am dani, i'w chadw yn ei holl ffyrdd. Ar eu dwylaw y dygent hi, rhag taro ei throed wrth gareg." "Cadwai hi fel canwyll llygad; cadwai hi dan gysgod ei adenydd." Pan y "trallodai ei chalon" gan guriadau ystormydd bywyd, ni theimlai ddiddanwch un câr na chyfaill daearol i'w gymharu a "diddanwch ysgrythyrau" ei Beibl—â llais y Cyfaill dwyfol a ddywedai wrthi ynddo, "Cred yn Nuw, a chred ynof Finau hefyd."
Trwy barhau am 60 mlynedd i edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych,"