Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ei hoff Feibl, mwyfwy y "newidid hi i'r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd." Pan ar derfyn pererindod yr anialwch, yn rhodio ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnai niwed." Taflai adnodau ei Beibl y fath belydrau disglaer o oleuni y Nefoedd i'w meddwl, nes "troi cysgod angau yn oleu ddydd." Dan dywyniadau y goleuni dwyfol hwnw y disgynai i mewn i "ddyfroedd yr Iorddonen "—lle y suddasai myrdd o gedyrn y byd hwn yn anobeithiol "mewn llawn sicrwydd gobaith" o bresenoldeb ac arweiniad yr "Archoffeiriad mawr," ac y cyrhaeddai yn ddiogel trwodd i'r "Ganaan nefol"—"Mi âf yno," meddai wrth gyfaill, "mi âf yno trwy bob rhwystrau yn ei law Ef." Cyrhaeddodd yno yn hwyr Rhagfyr 28ain, 1866, yn 82 mlwydd oed. Yno y mae, ac y bydd "o hyn allan," yn "gweled wyneb yn wyneb" y Prynwr byw a welodd ac a adnabu gyntaf trwy "ddrych" ei Beibl.

Frenhinol Lyfr! Ddwyfol Lyfr! unig ysbryd. oledig Lyfr Duw! Pa ad-dalwr daearol mor