Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

frenhinol ei anrhydedd, mor anchwiliadwy ei olud, mor ddwyfol ei haelioni, a thydi? Pwy ond tydi a allasai ad-dalu cariad dy wasanaethferch dlawd ond cywir hon â'r fath ad-daliad ag y mae heddyw yn ei fwynhau? Dy Awdwr dwyfol a lanwo ein gwlad â gwasanaethwyr o'r un llafurus gariad" atat, ac a sicrhant oddiar ei law yr un "wobr fawr iawn."

PENOD IX.—Athraw Mary Jones yn yr ysgol ddyddiol ar adeg ei thaith i'r Bala.

HYDERWN nad annyddorol fydd i ni ychwanegu yma ychydig o hanes athraw ysgol ddyddiol Abergynolwyn ar adeg taith Mary Jones i'r Bala i brynu Beibl—Lewis Williams, wedi hyny o Lanfachreth, gerllaw y dref hon, gan ei fod yntau yn gymeriad lled hynod yn ei ffordd ei hun. Nid oedd ynddo ddim un o elfenau hynodrwydd ei gyfaill, "yr hynod William Ellis, Maentwrog," ond ei dduwiolfrydedd. Yr oedd hynodrwydd William Ellis fel dyn ac fel Cristion yn fwy gwerthfawr a