Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dymunol fel eithriad nag fel esiampl, fel model-man. Yr oedd yn engraifft ddyddorol nodedig o amrywiaeth gwaith Duw ar eneidiau ei blant, i ladd yr unffurfiaeth a'r undonaeth sydd mor ddiflas mewn byd ac eglwys. Yr oedd elfenau hynodrwydd Lewis Williams o natur lawer uwch a gwerthfawrocach, yr oeddynt yn hanfodol i lwyddiant, os nad yn wir i fodolaeth, crefydd Crist yn y byd—hynodrwydd mewn zel angerddol, mewn llafur diorphwys, mewn ffyddlondeb diarebol, a defnyddioldeb cyffredinol yn ngwasanaeth ei Dduw a'i gydddynion. Gall ei hanes roddi rhyw syniad mor hynod oedd rhai o'r offerynau a ddefnyddiodd Duw mewn oesau blaenorol i wneyd Cymru yr hyn ydyw yn yr oes freintiedig hon. Dyn bychan oedd Lewis Williams ymhob ystyr naturiol—bychan ei gorff, bychan ei enaid, bychan ei ddoniau. Ond pob gïeuyn a gewyn yn ei gorff bychan, a phob cyneddf a dawn yn ei enaid llai, gwelid yr holl yn eu llawn waith yn wastadol mewn rhyw lwybr neu gilydd yn ngwasanaeth ei Greawdwr a'i Dduw.