Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ganwyd Lewis Williams o rieni tlodion yn Mhenal, yn 1774. Fel bechgyn eraill yr oes dywyll hono, ymroddai yn moreuddydd ei fywyd i bob arferion pechadurus, yn enwedig ar y Sabbothau. Pan tua deunaw mlwydd oed, yn brentis o grydd gerllaw y Cemmaes, Maldwyn, digwyddai fod ar foreu Sabboth mewn cyfarfod gweddi, a Mr. Jones, o Fathafarn, yn darllen Rhuf. v., ac yn gwneyd sylwadau arni. Cynyrchai darlleniad y benod o'i dechreu ryw effeithiau angerddol, dieithrol iawn iddo ef, ar ei feddwl. Ond pan y darllenai Mr. Jones y geiriau, "Trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondeniniad," trywanai y gwirionedd ei galon fel picell angeuol Syrthiai i lewyg, a chludwyd ef allan fel marw. Wedi adferu i'w ymwybyddiaeth, teimlai fel troseddwr wedi ei gondemnio i'w golli. Pan yn cael ei lethu gan y teimlad hwn, cyfeiriwyd ef at y gwirionedd gwrthgyferbyniol yn y rhan olaf o'r un adnod, "felly hefyd trwy gyfiawnder Un y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd." Tywynai pelydryn o ogoniant y Cyfryngwr a'r Iawn