Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Iesu Grist gen' i." Ceir yn yr atebiad diweddaf hwn agoriad i holl gymeriad a bywyd dilynol y llanc hwnw hyd ei fedd.

Rai blynyddau wedi hyn, pan yn gweini gyda pherthynasau iddo yn y Trychiad, ger Llanegryn, teimlai yn ddwys dros anwybodaeth ieuenctyd y pentref. Penderfynodd geisio sefydlu ysgol ar y Sabboth a rhai o nosweithiau yr wythnos i'w haddysgu i ddarllen. Ni chawsai ei hun ddiwrnod erioed o ysgol ddyddiol na Sabbothol; nis gallai ei hun ddarllen bron air yn gywir. Nis gwyddai ef fod dim tebyg i Ysgol Sabbothol wedi ei sefydlu y pryd hwnw trwy yr oll o Orllewin Meirionydd, ond gan John Jones, Penyparc. Ond gallai John Jones ddarllen yn dda, yr hyn nis gallai ef. Bwriadai felly yn angerdd ei zel, geisio addysgu y plant i wneyd yr hyn nas gallai ei wneyd ei hun. Ond y fath oedd ei zel a'i fedr i drin y plant, fel y tyrent ato i'w ysgol. Dysgai y wyddor i'r dosbarth isaf trwy eu dysgu oll i'w chydganu ar "Ymgyrch gwŷr Harlech," a ddysgasai ei hun pan gyda'r militia. Yr oedd hyn tua deugain mlynedd