Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pryd hwn, i ddyfod i ymryson darllen am ryw wobr fechan. Y testyn ymryson iddynt yn wastad—yn ddiarwybod iddynt hwy—fyddai y wers ddarllen nesaf yn ei ysgol fechan ef ei hun. Y llwynog, onidê? Efe fyddai y beirniad! Craffai, gydag amcan a phryder nas dychymygent hwy, sut y seiniai pob un bob llythyren a sill o bob gair. Byddai eu dadleuon hwy ar sain priodol gair, neu bwyslais priodol brawddeg, yn addysg werthfawrocaf ganddo ef. Galluogid ef yn wyrthiol i ffurfio a chyhoeddi barn foddhaol i'r cystadleuwyr oll ar enillydd y gamp. Fel hyn y llwyddai y beirniad i gelu ei anwybodaeth ddybryd ei hun y tu cefn i'w gwybodaeth hwy, ac i gadw ei fawredd ffugiol yn ngolwg y bechgyn fel darllenwr rhagorol. Fel hyn hefyd y deuai yn fwyfwy o feistr ar ei waith ac ar y plant yn ei ysgol.

Byddai eisieu dechreu a diweddu y cyfarfodydd trwy weddi. Y ddyfais a arferai ar y cyntaf i gadw ei arabiaid ieuainc anwaraidd yn llonydd a dystaw, iddo allu gweddio, oedd gwneyd iddynt fyned trwy y gwahanol ymar-