plant yno ar y Sabbothau a rhai nosweithiau o'r wythnos, yn eu haddysgu i ddarllen; ond gan y deallai nas gallai ddarllen ei hun, ni chredai ef y gallai fod o unrhyw wasanaeth fel ysgolfeistr.
"Dyn ieuanc yn gallu addysgu plant i ddarllen, heb allu darllen ei hun?"
"Felly y maent yn dweyd."
Dirgelwch oedd hwn nas gallai Mr. Charles ei amgyffred na'i gredu; ac archodd ar John Jones anfon am i'r dyn ieuanc anamgyffredadwy ddyfod ato ef i Gyfarfod Misol Abergynolwyn. Dranoeth daeth Lewis Williams yno, a gwladeiddiwch ei wedd a'i wisg yn bradychu unrhyw beth ond yr ysgolhaig a'r dysgawdwr.
"Wel, 'machgen i, y maent yn dweyd dy fod ti yn cadw ysgol yn Llanegryn acw ar y Sabbothau a nosweithiau yr wythnos, i addysgu y plant i ddarllen. A oes llawer o blant yn dyfod atat ti i'r cyfarfodydd?"
"Oes, syr, fwy nag a allaf eu dysgu nhw, syr."
"A ydyn' nhw yn dysgu tipyn gen' ti?"