Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"'Rydw'i 'meddwl fod rhai o honyn' nhw, syr."

"A fedri di dipyn o Saesoneg?"

"Fedraf fi ddim ond ambell air a glywais i gyda'r militia, syr."

"A fedri di ddarllen Cymraeg yn dda?"

"Fedra' i ddarllen bron ddim, syr; ond yr ydyw'i 'n ceisio dysgu 'ngora', syr."

"A fuost ti ddim mewn ysgol cyn dechreu gweini?"

Naddo, syr; che's i ddiwrnod o ysgol erioed, syr,"

"A fyddai dy dad a dy fam ddim yn dy ddysgu i ddarllen gartref?"

"Na fyddan', syr; fedrai 'nhad na'm mam ddim darllen yr un gair eu hunan, syr."

Agorai Mr. Charles y Beibl ar y benod gyntaf o'r Epistol at yr Hebreaid, a dymunai arno ddarllen yr adnodau blaenaf.

"Duw-we-wedi-iddo-le-lef-lefaru-la-lawer gwaith, a-llawer-modd,-gynt-wrth y-tad-au-trwy y pro-proph-proph-(prophwydi, sisialai John Ellis, o'r Abermaw, yn ei glust, o'r tu cefn iddo)-yn