y dd-iau-di-wedd-af hyn a le-lef- lefarodd-wrth-ym ni yn ei Fab.." "Dyna ddigon, 'machgen i, dyna ddigon; wel! sut yr wyt ti yn gallu addysgu neb i ddarllen, mae tuhwnt i fy amgyffred i. Dywed i mi, 'machgen i, sut yr wyt ti yn gwneyd i addysgu y plant acw i ddarllen?"
Rhoddai yr athraw gwylaidd iddo fanylion cyfundrefn o addysg—y cydganu yr A.B.C. —y gwersi gan Betti Ifan—ymrysonau darllen addysgiadol bechgyn y Grammar School—y 'chwareu soldiers bach,'—y gweddio, a'r cyfan —cyfundrefn drwyadl wreiddiol o addysg, nas clywsai Mr. Charles, nac un Bwrdd Addysg trwy y byd erioed, am ei chyffelyb. Ond yr oedd y ffaith mor wir ag ydoedd o ryfedd yn aros, i'r athraw ieuanc diddysg, aiddgar, trwyddi, lwyddo i addysgu ugeiniau o blant tlodion Llanegryn i ddarllen.
Nid llai rhyfedd oedd y ffaith i lygad craff y prophwyd o'r Bala weled yn y dyn ieuanc syml, gwladaidd, ac anllythrenog hwnw, ddefnydd athraw i'w ysgolion cylchynol ef. Gwelai yn eglur fod ei ewyllys a'i ymdrech i