Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wneuthur daioni yn llawer mwy na'i allu; ac nad oedd arno eisiau ond mwy o allu—mwy o ddysg—i'w wneyd yn "filwr da i Iesu Grist," ac yn ysgolfeistr ffyddlawn a defnyddiol iddo yntau. Anogai ef i fyned am ysbaid dan addysg ei ysgolfeistr galluog John Jones, yn Mryncrug, dwy filldir o Llanegryn. Yno yr aeth, mor gyson ag a ganiatai ei amgylchiadau, am tua chwarter blwyddyn; a dyna yr oll o addysg ysgol ddyddiol a fwynhaodd erioed. Mor uchel oedd ei syniad am gael myned yn ysgolfeistr dan Mr. Charles, fel yr ymegnïai i wneyd y defnydd goreu o'i holl oriau hamddenol i addysgu ei hun yn nghanghenau symlaf dysgeidiaeth, yn enwedig mewn darllenyddiaeth. Clywsai mai y radd uchaf mewn darllenyddiaeth oedd gallu "darllen fel person."

Temtiai hyn ef i fyned yn fynych i eglwysydd Llanegryn a Thowyn i glywed y "person" yn darllen, fel ag i allu acenu a phwysleisio Cymraeg yn ol ei esiamp! ef.

Tua'r flwyddyn 1799, cyflogodd Mr. Charles ef yn athraw i'w ysgolion ef, am 4p. y flwydd-