yn; ac achubai bob cyfle i roddi iddo wersi a hyfforddiadau yn ei lafur. Abergynolwyn oedd un o'r ardaloedd y symudwyd ef iddynt yn 1800. Yno yr oedd, a merch fechan Tynyddol yn un o'i ysgolheigion, ar adeg ei thaith gofiadwy i'r Bala i brynu Beibl. Cafodd felly bob mantais i wybod ganddi hi ei hun ar y pryd, yn gystal a chan Mr. Charles wedi hyny, holl fanylion ei hymweliad ag ef.
Yn ei symudiadau fel ysgolfeistr o ardal i ardal, bu yn offeryn i sefydlu Ysgolion Sabbothol newyddion, ac i adgyfodi rhai trancedig, mewn lliaws o fanau, ac yn eu mysg yr ysgol drancedig yma yn Nolgellau. Sefydlesid yr Ysgol Sabbothol gyntaf yma gan ysgolfeistr blaenorol, John Ellis; ond profasai gwrthwynebiad cryf swyddogion ac aelodau blaenaf yr eglwys yn yr Hen Gapel," iddo gadw ysgol ar Ddydd yr Arglwydd, yn angeuol iddi. Ail sefydlodd Lewis Williams Ysgol Sabbothol, pan y daeth yma i gadw ysgol ddyddiol yn 1802, a hyny yn ngwyneb gwg y swyddogion oll ond un. Arferid cynal y moddion Sabbothol cyntaf am 9 o'r gloch yn