Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y boreu. Cynhaliai yntau yr Ysgol am 6 o'r gloch. Cyn hir symudai y gwrthwynebwyr y society i'r awr foreuol hono. Symudai yntau yr ysgol i'r awr foreuach o 4 o'r gloch! Deuai o 60 i 80 o blant iddi ar yr oriau boreuaf hyn. Plant gan mwyaf oedd ei ysgolheigion ar y cyntaf. Tra yr oedd "yn flin arno yn rhwyfo" yn erbyn y croeswyntoedd hyn, deuai ei noddwr ffyddlawn Mr. Charles yma i gyhoeddiad Sabboth. Wedi deall helbulon ei hoff sefydliad, dadleuai drosti gyda'i holl zel a'i ddoethineb, ac, yn erbyn teimladau y penaethiaid gwrthwynebol, mynodd le i'r ysgol am 9 o'r gloch yn y boreu, fel un o foddion rheolaidd y dydd sanctaidd; ac felly y parhaodd hyd heddyw, i gael ei lle fel un o ordinhadau mwyaf hanfodol teyrnas Crist. Nid yw hanes y gwrthwynebiadau a ddioddefodd Lewis Williams a'r Ysgol Sabbothol, ar ei chychwyniad cyntaf yma, ond engraifft o'r hyn a ddioddefodd bron ymhob ardal sydd yn awr yn ymffrostio ynddo fel tad ei Hysgol Sabbothol. Efe oedd sylfaenydd ac ysgrifenydd cyntaf Dosbarth Ysgolion