meddylgar. Gofidiai Lewis Williams yn ddwys fod hyfforddiadau hyny Mr. Charles ar ddarllenyddiaeth yn ei "Sillydd" wedi eu gadael allan o wers-lyfrau Ysgolion Sabbothol yr oes hon; fod y canlyniad anocheladwy o hyny i'w weled mewn cenhedlaeth o ddarllenwyr cyhoeddus o'r Beibl sydd yn darostwng y rhan fwyaf dwyfol hon i fod y leiaf dyddorol ac addysgiadol i'r gwrandawyr o holl ranau gwasanaeth y Cysegr.
Yn ei lafur gyda'r Ysgolion Sabbothol, mynych y gwelodd y "nerth o'r Uchelder" yn cydfyned â'i waith yn eu holwyddori, yn ystod y cyfnod cyntaf o'i lafur. Ymysg ei liaws "plant" a enillodd at Grist trwy ddylanwadau oll-orchfygol ei holiadau yn yr ysgolion, yr oedd y Parch. Richard Roberts, Dolgellau, a Morris Roberts, Remsen, America. Yr amser a ballai i adrodd am y "grymusderau" a ganlynent ei lafur diorphwys trwy yr adfywiad crefyddol bythgofiadwy yn 1817-18. Gorlifai y llanw nefol i mewn i'w ysgolion dyddiol. Mynych y tröai ranau o'r rhai hyny i hoiwyddori y plant yn ngwir-