Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ioneddau achubol y Beibl. Fel yn yr Ysgolion Sabbothol, felly yn yr ysgol ddyddiol, torai y plant o'i amgylch allan i "orfoleddu." Teimlai ei hun yn fynych yn llawn ysbryd i ymuno â hwynt. Ond gan faint ei bryder yn cadw y plant rhag niwed, "nis gallodd ei hun erioed gael amser i orfoleddu."

Am fod y gallu i gadw cyfrifon yn brin yn nyddiau boreuaf ei lafur, gwnai eglwysi bychain y wlad ddefnydd o'i allu bychan ef i hyny, tra yn cadw ysgol yn yr ardal. Mae ei gofnodau o daliadau eglwys fechan yn nghyffiniau y dref hon at y weinidogaeth Sabbothol, yn moreuddydd ei yrfa, yn awr ger ein bron. Gall ychydig engreifftiau o honynt fod yn ddyddorol, ac, fe allai, yn addysgiadol hefyd, i genhedlaethau dilynol o lafurwyr: Robert Griffith, 6d.; Edward Foulk, 6c.; William Huw, 6c.; Foulk Evan, 6c.; Edward Coslett, 1s.; Thomas Jones, 1s.; John Hughes, 1s.; Richard Jones, 1s.; David Elias, 1s. 6c.; Dafydd Cadwaladr, 1s.; Richard Robert, 6c.; John Peter, 6c.: