Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bregethau syml—yr oedd yn adiarebol o dduwiol. Fel y gellid credu am un nad oedd yn ail i John Elias ei hun mewn teyrngarwch trwyadl i'w Arglwydd, mynych y gwelwyd y sêl frenhinol yn eglur ar ei weinidogaeth yntau. Cafodd liaws o odfaon a gofir byth gan bawb a'i gwrandawent.

Llwybr arall y bu Lewis Williams yn llafurus a defnyddiol nodedig ynddo oedd fel llyfrwerthwr. Efe oedd y llyfrwerthwr Methodistaidd cyntaf o unrhyw bwys yn y parthau hyn. Dechreuodd ar ei lafur yn y llwybr hwn yn fuan wedi ei gysylltiad â Mr. Charles yn 1799. Teimlai Mr. Charles y parch a'r rhwymedigaeth mwyaf iddo fel un o ddosbarthwyr ffyddlonaf, gonestaf, y Drysorfa Ysbrydol, y Geiriadur, yr Hyfforddwr, a phob llyfrau eraill a gyhoeddai efe. Trwy ei lafur dyfal fel dosbarthwr llyfrau am tua haner canrif, bu yn offeryn i ledaenu trwy yr ardaloedd hyn gyfanswm mawr o lenyddiaeth grefyddol oreu y cyfnod hwnw.

Gwelir gan y cyffredin o weithwyr ar faes Cristionogaeth eu hobbies—rhyw un achos da