Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ag y teimlent ddyddordeb arbenig ynddo, gan led neu lwyr esgeuluso achosion eraill llawn mor bwysig. Nôd anffaeledig o fychander meddyliol neu ysbrydol ydyw hobbies. Nis gwyddai ysbryd gweithgar Lewis Williams ddim am y bychander hwn. Feallai, yn wir, mai cywirach fyddai dweyd fod pob achos da pob achos a'i amcan i weithio allan amcanion dwyfol Cristionogaeth ar y byd—yn hobby ganddo ef. Diau fod eangder hwn ei zel grefyddol i'w briodoli i fesur mawr i'r ffaith i'w egwyddorion crefyddol egino a thyfu dan ddylanwadau mor uniongyrchol ysbryd ac addysgiadau Mr. Charles, a'i edmygedd annherfynol o'i gymeriad dihafal ef. Yr oedd ganddo law yn un o'r casgliadau cyntaf oll yn yr ardaloedd hyn at y Feibl Gymdeithas, yn niwedd 1805. Ni chollodd y fraint hono, ymha le bynag y byddai yn llafurio, o hyny hyd ei farwolaeth yn 1862, ond yr olaf oll, yn 1861, pan yr oedd yn gwbl analluog i adael ei aelwyd. Llwyr gollasai ei olwg rai blynyddau cyn ei farwolaeth. Ond bob blwyddyn wedi hyny, fel cynt,