Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwelech yr hen batriarch dall, dros ei 80 mlwydd oed, yn cerdded yn mraich casglydd arall o dŷ i dŷ trwy ei gylch, mor zelog a pharablus ag erioed, yn casglu ei hoff Gym— deithas. Golygfa effeithiol, onide?

Yn foreu yn ei gysylltiad âg ef, eglurai Mr. Charles iddo amcan a gweithrediadau y Cymdeithasau Cenhadol, ac anogai ef, i ymdrechu ymhob ardal lle y symudid ef, i sicrhau casgliad blynyddol at Gymdeithas Genhadol Llundain. Parhaodd y zel Genhadol a enynasai Mr. Charles yn ei fynwes, i losgi a goleuo hyd ddydd ei farwolaeth. Yn ei holl lafur dros lwyddiant crefydd gartref yn ei wlad ei hun, dangosai trwy ei oes yr awydd cryfaf am swn brwydr fawr Calfaria "dreiddio i gonglau pella'r byd."

Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf yn ei ardal i ymrestru dan faner Dirwest, yn niwedd 1836. Yr oedd ei ymrwymiad i barhau i bleidio y symudiad newydd hwnw yn un amodol—"tra y parhaf i gredu fod dirwest o Dduw." Parhaodd i gredu felly, ac i bleidio egwyddorion dirwest gyda zel a ffyddlondeb Cristion egwyddorol tra y bu byw.