yddol a gwladgarol, safai ein pregethwr lleiaf gymhariaeth lwyddianus â'n "hapostolion penaf" mewn llafur a defnyddioldeb crefyddol; a'r llafur a'r defnyddioldeb ysbrydol hwn, wedi y cwbl, ac nid doniau na swyddau, ydynt wir safon un "mawr yn nheyrnas Nefoedd."
Yn 1819, yma yn Nolgellau, anrhegodd Arglwydd ef â gwraig a fu yn "ymgeledd gymwys" a "choron" iddo, ac yn gynorthwy gwerthfawrocaf yn ei holl lafur crefyddol a thymhorol. Yn 1824, symudodd am y bedwaredd waith i Lanfachreth i gadw ysgol, wedi bod yno y waith gyntaf yn y flwyddyn 1800; a'r waith hon dechreuodd gadw yno siop fechan; ac yno yr arosodd ef a'i briod hyd eu marwolaeth, a bendith y Duw a wasanaethent yn llwyddo eu holl lafur. Ychydig o fasnachwyr yr oes hon allant ymffrostio mewn cymeriad masnachol mor uchel ag a enillodd ein siopwr bychan o Lanfachreth.
Prynai amrywiol nwyddau ei fasnach yn masnachdy parchus y Mri. Williams a Davies, yn y dref hon. Galwai yno am amrywiaeth