Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y preswylydd ysbrydol o'i fewn yn prysur ymbarotoi i gael ei "gymeryd i ogoniant. ' Bu farw Awst 14eg, 1862, yn 88 mlwydd oed. Fel y gallesid disgwyl, gwnaeth y Duw a wasanaethasai mor ffyddlon "gysgod angeu yn oleu ddydd" iddo, heb gymaint a chledr llaw gŵr o gwmwl rhwng ei brofiad â'r Nefoedd. Gosodwyd cofadail ar ei fedd trwy gasgliadau cyffredinol yn holl Ysgolion Sabbothol y Dosbarth hwn tuag at hyny. Bedd tad y Dosbarth a lliaws o'i ysgolion unigol— bedd ei ysgrifenydd cyntaf, a'r gweithiwr ffyddlonaf o'i fewn—oedd y bedd hwnw. Terfynwn bellach gydag ychwanegu anerch ymadawol ein hybarch dad, a sibrydodd â llais egwan yn ein clust un o'r Sabbothau olaf cyn ei ymadawiad, i'w gyflwyno i Gyfarfod Ysgolion y Dosbarth, a gynhelid yn y cyffiniau y Sabboth hwnw:—"Cofiwch fi yn serchog iawn at y brodyr i gyd.—Dywedwch wrthyn' nhw mai fy erfyniad olaf i am byth arnynt ydyw—am i bawb weithio eu goreu gyda'r Ysgol Sul—perwch i bawb feddwl yn llawer iawn gwell—o Iesu Grist fel talwr—