Gwirwyd y dudalen hon
Dyma fi—'r ydw'i wedi bod yn ceisio gwneyd rhyw 'chydig iawn—fel y gallwn i—yn ei wasanaeth am agos i 60 mlynedd—y talwr goreu 'rioed—arian parod bob amser a welais i—byddai'n rhoi ryw deimlad i mi yn y fan— 'y mod i'n ei blesio fo—'D allsai fo byth roi tâl gwell gen' i gael na hyny—Dyma 'ngwasanaeth i yma ar ben—'does arno fo yr un ddimai o ddyled i mi—Beth bynag sy' geno fo i'w roi i mi eto—yn y byd mawr yr ydw' i'n myn'd iddo fo—gras !—gras !—gras!—gras!" Yma gorchfygwyd ei lais gwan gan ei deimladau. Ni ychwanegodd air mwy at ei genadwri i ni, dim ond sibrwd ymlaen ynddo ei hun, "Gras!—Gras !—Gras!"
DIWEDD