Gwirwyd y dudalen hon
OL-YSGRIFEN
ANFONWYD talfyriad Saesneg o hanes Mary Jones i'w gyhoeddi yn misolyn poblogaidd Cymdeithas y Traethodau Crefyddol—"The Sunday at Home." Ymddangosodd, gyda'r darluniau, yn y rhifyn am fis Rhagfyr. Wedi i'r tudalenau blaenorol o'i hanes cyflawnach yn Gymraeg gael eu hargraffu, wele y newydd dyddorol yn dyfod i ni, fod ceisiadau eisoes wedi eu derbyn oddiwrth swyddogion y Feibl Gymdeithas yn amryw o wledydd y Cyfandir, megis Ffrainc, Itali, Germani, a Holland, am ganiatad i gyhoeddi cyfieithiadau o'r hanes, gyda'r darluniau, yn ieithoedd y gwledydd hyny. Bernir yn debygol y derbynir ceisiad au cyffelyb eto o wledydd eraill. Yr ydym