Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Megys Trwy Dan.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ACT IV.

Offis Mr. Powell cto. 1921. Chwe mlynnedd wedi myned heibio. Mr. Powell yn rhy hoff o'r ddiod. Mae ganddo un plentyn, Ceinwen, tua 21 oed, Ceinwen wedi ymbriodi a Jenkin; eu dau yn byw yn Cymrofa," gyda Mr. Powell. Y Chief Clerk wedi ymadael. Jenkin yw llaw ddehau" Mr. Powell, mewn gwirionedd, mae Mr. Powell wedi ymollwng yn ormodol i yfed Whisky, ac y mae'r fusnes yn llaw Jenkin. Mae yn ddiogel yn llaw Jenkin, ond nid oes sicrwydd fod Jenkin yn ddiogel yn llaw y fusnes. Mewn gair, mae bron yn ysglyfaeth i gyfoeth; "Gwneud arian" a dod i awdurdod yw ei fywyd. Yn bresennol, Mr. Powell a Jenkin. Amser, tua 10 y bore; Mr. Powell yn eistedd ac yn darllen y" Financial News" wrth ddesc A. Jenkin yn brysur iawn wrth ddesc B (llaw chwith). Yna, ymhen ychydig, cwyd Mr. Powell ar ei draed, cydia yn ei het ac a allan.

JENKIN: "Y ffwl. Wedi gwneud arian, yn eu taflu i ffwrdd ar y fath sothach." (Ymhen ychydig daw Ceinwen i fewn, wedi gwisgo yn hardd, ac yn llawn bywyd. Jenkin yn troi i edrych arni).

CEINWEN (wrth weld cadair ei thad yn wag, yn edrych yn bruddaidd, yna dywed): Wrth eich hun, rwy'n gweld."

JENKIN "Oh, ie, Ceinwen, dyna'r rheol ers amser, bellach.'

CEINWEN (ymhen ennyd): Rwyf am dalu'r bill am y got newydd yma, a'r fur; mae'n hen bryd ei dalu. ANghofiais ofyn y bore yma am y cheque. Gwnewch ef mas i mi yn awr."

JENKIN : Am ba faint ?

CEINWEN: "Hanner can punt."

JENKIN (yn edrych yn sur, yna yn gwneud y cheque allan ac yn ei daflu ar y desc): "Un arall eto am wagedd."

CEINWEN: "Jenkin, peidiwch taflu hwnna ata i.