Gwirwyd y dudalen hon
ATODLEN
(a gyflwynwyd gan adran 7)
COSBAU SIFIL
Diwygiadau i Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008
Ar ôl adran 29 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 mewnosoder—
ATODLEN A1
(a gyflwynwyd gan adran 14G)
COSBAU SIFIL
Cosbau sifil
1 (1) Caiff rheoliadau ddarparu ynghylch cosbau sifil am dorri rheoliadau diogelwch.
- (2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person yn torri rheoliadau diogelwch os yw’r person, o dan amgylchiadau a bennir—
- (a) yn methu â chydymffurfio â gofyniad a wneir gan neu o dan reoliadau diogelwch, neu
- (b) yn rhwystro neu’n methu â chynorthwyo awdurdod gorfodi.
- (3) Yn yr Atodlen hon—
ystyr “cosb sifil” yw—
- (a) cosb ariannol benodedig (gweler paragraff 2),
- (b) gofyniad yn ôl disgresiwn (gweler paragraff 4),
- (c) hysbysiad stop (gweler paragraff 7), neu
- (d) ymgymeriad gorfodi (gweler paragraff 11);
- ystyr “rheoliadau diogelwch” yw rheoliadau a wneir o dan adran 14B neu 14C.
Cosbau ariannol penodedig
2 (1) Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n rhoi’r pŵer i awdurdod gorfodi i osod drwy hysbysiad gosb ariannol benodedig ar berson sy’n torri rheoliadau diogelwch.
- (2) Ni chaiff y rheoliadau roi’r cyfryw bŵer ond mewn perthynas ag achos pan fo’r awdurdod gorfodi wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd fod y rheoliadau wedi eu torri.
- (3) At ddibenion yr Atodlen hon, gofyniad i dalu cosb i awdurdod gorfodi a’r gosb honno yn un o swm a bennir neu y penderfynir arno yn unol â’r rheoliadau yw “cosb ariannol benodedig”.
- (4) Ni chaiff y rheoliadau ddarparu am osod cosb ariannol benodedig uwch na £5,000.