Tudalen:Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cosbau ariannol penodedig: y weithdrefn

3 (1) Rhaid i ddarpariaeth o dan baragraff 2 sicrhau—

(a) pan fo awdurdod gorfodi yn bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, bod rhaid i’r awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o’r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”) i’r person hwnnw a’r hysbysiad hwnnw’n cydymffurfio ag is-baragraff (2),
(b) bod yr hysbysiad o fwriad hefyd yn cynnig y cyfle i’r person ei ryddhau ei hun o’i atebolrwydd i dalu’r gosb ariannol benodedig drwy dalu swm penodedig (y mae’n rhaid iddo fod yn llai na swm y gosb neu gyfwerth â’r swm hwnnw),
(c) os nad yw’r person yn ei ryddhau ei hun o’r atebolrwydd yn y ffordd hon—
(i) y caiff y person gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r awdurdod gorfodi mewn perthynas â’r bwriad i osod cosb ariannol benodedig, a
(ii) ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, bod rhaid i’r awdurdod gorfodi benderfynu p’un ai gosod y gosb ariannol benodedig ai peidio,
(d) pan fo’r awdurdod gorfodi yn penderfynu gosod y gosb ariannol benodedig, bod yr hysbysiad sy’n ei gosod :(“yr hysbysiad terfynol”) yn cydymffurfio ag is-baragraff (4), ac
(e) bod y person y gosodir cosb ariannol benodedig arno yn cael apelio yn erbyny penderfyniad i’w osod.
(2) I gydymffurfio â’r is-baragraff hwn, rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth am—
(a) y seiliau dros y bwriad i osod y gosb ariannol benodedig,
(b) effaith talu’r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) (b),
(c) yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau,
(d) yr amgylchiadau pryd na chaiff yr awdurdod gorfodi osod y gosb ariannol benodedig,
(e) y cyfnod pryd y caniateir i berson ei ryddhau ei hun o’i atebolrwydd i dalu’r gosb ariannol benodedig, nas caniateir i fod yn fwy na’r cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod pryd y cafwyd yr hysbysiad o fwriad, ac
(f) y cyfnod pryd y caniateir cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, nas caniateir i fod yn fwy na’r 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad.
(3) Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff :(1)::(c):(ii) gynnwys darpariaeth am

amgylchiadau pryd na chaniateir i’r awdurdod gorfodi benderfynu gosod cosb ariannol benodedig.

(4) I gydymffurfio â’r is-baragraff hwn rhaid i’r hysbysiad terfynol y cyfeirir ato yn isbaragraff (1) (d) gynnwys gwybodaeth am—
(a) y seiliau dros osod y gosb,
(b) sut y caniateir i’r taliad gael ei wneud,
(c) y cyfnod pryd y mae’n rhaid gwneud y taliad,