Tudalen:Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
(b) y caiff y person hwnnw gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r awdurdod gorfodi mewn perthynas â’r bwriad i osod gofyniad yn ôl disgresiwn,
(c) ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno’r cyfryw sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i’r awdurdod gorfodi benderfynu p’un ai—
(i) i osod y gofyniad yn ôl disgresiwn, gyda neu heb addasiadau, neu
(ii) i osod unrhyw ofyniad arall yn ôl disgresiwn y mae gan yr awdurdod gorfodi y pŵer i’w osod o dan baragraff 4,
(d) pan fo’r awdurdod gorfodi yn penderfynu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn, bod yr hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) yn cydymffurfio ag isbaragraff (4), ac
(e) bod y person y gosodir gofyniad yn ôl disgresiwn arno yn cael apelio yn erbyn y penderfyniad i’w osod.
(2) I gydymffurfio â’r is-baragraff hwn, rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth am—
(a) y seiliau dros y bwriad i osod y gofyniad yn ôl disgresiwn;
(c) yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau;
(c) yr amgylchiadau pryd na chaiff yr awdurdod gorfodi osod y gofyniad yn ôl disgresiwn;
(d) y cyfnod pryd y caniateir cyflwyno sylwadau ac gwrthwynebiadau, nas caniateir i fod yn fwy na’r 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad.
(3) Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1) (c) gynnwys darpariaeth am amgylchiadau pryd na chaniateir i’r awdurdod gorfodi benderfynu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn.
(4) I gydymffurfio â’r is-baragraff hwn rhaid i’r hysbysiad terfynol y cyfeirir ato yn isbaragraff (1)(d) gynnwys gwybodaeth am—
(a) y seiliau dros osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,
(b) pan fo’r gofyniad yn ôl disgresiwn yn gosb ariannol amrywiadwy—
(i) sut y caniateir i’r taliad gael ei wneud,
(ii) y cyfnod pryd y mae’n rhaid gwneud y taliad, a
(iii) unrhyw ddisgowntiau am wneud taliadau cynnar neu gosbau am wneud taliadau hwyr,
(c) hawliau apelio, a
(d) canlyniadau peidio â chydymffurfio.
(5) Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(e) sicrhau bod y seiliau y caniateir i berson apelio arnynt yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi yn cynnwys y canlynol—
(a) bod y penderfyniad wedi ei wneud ar sail camgymeriad ffeithiol;
(b) bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;