Tudalen:Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
(c) yn achos cosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;
(d) yn achos gofyniad heb fod yn ariannol yn ôl disgresiwn, bod natur y gofyniad yn afresymol;
(e) bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall.

Gofynion yn ôl disgresiwn: gorfodi

6 (1) Caiff darpariaeth o dan baragraff 4 gynnwys darpariaeth i berson dalu cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) i awdurdod gorfodi os yw’r person yn methu â chydymffurfio â gofyniad heb fod yn ariannol yn ôl disgresiwn a osodir ar y person.

(2) Caiff darpariaeth o dan is-baragraff (1)—
(a) pennu swm y gosb am beidio â chydymffurfio neu ddarparu i’r swm hwnnw gael ei benderfynu yn unol â’r rheoliadau, neu
(b) darparu i’r swm gael ei benderfynu gan yr awdurdod gorfodi neu drwy rhyw ffordd arall.
(3) Os yw rheoliadau yn gwneud darpariaeth o fewn is-baragraff (2)(b), rhaid iddynt, mewn perthynas â phob math o fethiant y caniateir gosod cosb am beidio â chydymffurfio—
(a) pennu’r gosb uchaf y caniateir ei gosod am fethiant o’r math hwnnw, neu
(b) darparu am benderfynu’r gosb uchaf honno yn unol â’r rheoliadau.
(4) Rhaid i ddarpariaeth o dan is-baragraff (1) sicrhau —
(a) bod y gosb am beidio â chydymffurfio yn cael ei gosod drwy hysbysiad a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi, a
(b) bod y person y gosodir hi arno yn cael apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.
(5) Rhaid i ddarpariaeth yn unol â pharagraff (b) o is-baragraff (4) sicrhau bod y seiliau y caniateir i berson apelio arnynt yn erbyn hysbysiad y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw yn cynnwys y canlynol—
(a) bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad wedi ei seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b) bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;
(c) bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm (gan gynnwys, mewn achos pan benderfynwyd swm y gosb am beidio â chydymffurfio gan yr awdurdod gorfodi, bod y swm yn afresymol).

Hysbysiadau stop

7 (1) Caiff y rheoliadau roi i awdurdod gorfodi y pŵer i gyflwyno hysbysiad stop i berson.

(2) At ddibenion yr Atodlen hon “hysbysiad stop” yw hysbysiad sy’n atal person rhag cyflawni gweithgaredd a bennir yn yr hysbysiad hyd nes i’r person gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Ni chaiff darpariaeth o dan y paragraff hwn ond rhoi’r cyfryw bwˆ er mewn perthynas ag achos sy’n dod o fewn is-baragraff (4) neu (5).
(4) Mae achos yn dod o fewn yr is-baragraff hwn pan fo—
(a) y person yn cyflawni’r gweithgaredd,