Gwirwyd y dudalen hon
- (4) Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (2)(b) sicrhau bod y seiliau y caiff person apelio arnynt yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad stop yn cynnwys y canlynol—
- (a) bod y penderfyniad wedi ei wneud ar sail camgymeriad ffeithiol;
- (b) bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;
- (c) bod y penderfyniad yn afresymol;
- (d) bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;
- (e) nad yw’r person wedi torri’r rheoliadau ac ni fyddai wedi eu torri pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;
- (f) unrhyw seiliau eraill a bennir.
- (5) Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (2)(g) sicrhau bod y seiliau y caniateir i berson apelio arnynt yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau yn cynnwys y canlynol—
- (a) bod y penderfyniad wedi ei wneud ar sail camgymeriad ffeithiol;
- (b) bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;
- (c) bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol.
Hysbysiadau stop: digolledu
9 (1) Rhaid i ddarpariaeth o dan baragraff 7 sy’n rhoi pŵer i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad stop i berson gynnwys darpariaeth i’r awdurdod gorfodi ddigolledu’r person am y golled a ddioddefodd o ganlyniad i gyflwyno’r hysbysiad.
- (2) Caiff darpariaeth o dan is-baragraff :(1) ddarparu am ddigollediad—
- (a) mewn achosion rhagnodedig yn unig;
- (b) mewn perthynas â disgrifiadau rhagnodedig o golled yn unig.
- (3) Rhaid i ddarpariaeth o dan is-baragraff (1) sicrhau bod y person y cyflwynir yr hysbysiad stop iddo yn gallu apelio yn erbyn—
- (a) penderfyniad gan y rheoleiddiwr i beidio â dyfarnu digollediad, neu
- (b) penderfyniad gan y rheoleiddiwr ar swm y digollediad. Hysbysiadau stop: gorfodi
10 (1) Rhaid i ddarpariaeth o dan baragraff 7 sy’n rhoi pwˆ er i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad stop ddarparu, pan na fo person y cyflwynwyd hysbysiad iddo yn cydymffurfio ag ef, bod y person yn euog o dramgwydd ac yn agored—
- (a) ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu garchar am gyfnod nad yw’n hwy na deuddeng mis, neu’r ddau, neu
- (b) o’i gollfarnu ar dditiad, i garchar am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd, neu ddirwy, neu’r ddau.
- (2) Wrth gymhwyso’r adran hon mewn perthynas â thramgwydd a gyflawnwyd cyn cychwyn adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, mae’r cyfeiriad yn isbaragraff (1)(a) at ddeuddeng mis i’w ddarllen fel cyfeiriad at chwe mis.