Tudalen:Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ymgymeriadau gorfodi

11 (1) Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth—

(a) i alluogi awdurdod gorfodi i dderbyn ymgymeriad gorfodi oddi wrth berson mewn achos pan fo gan yr awdurdod gorfodi seiliau rhesymol dros amau bod y person wedi mynd yn groes i gyfyngiad neu ofyniad a osodwyd mewn rheoliadau diogelwch, a
(b) bod i dderbyn yr ymgymeriad y canlyniadau yn is-baragraff (4).
(2) At ddibenion y Rhan hon, mae “ymgymeriad gorfodi” yn ymgymeriad i gymryd unrhyw gamau a bennir yn yr ymgymeriad yn cyfnod a bennir felly.
(3) Rhaid i’r camau a bennir mewn ymgymeriad gorfodi fod—
(a) yn gamau i sicrhau nad yw’r weithred o fynd yn groes i’r cyfyngiad neu’r gofyniad yn parhau nac yn digwydd eto, neu
(b) yn gamau o ddisgrifiad rhagnodedig.
(4) Y canlyniadau yn yr is-baragraff hwn yw, oni bai bod y person y derbynnir yr ymgymeriad oddi wrtho wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad neu unrhyw ran ohono—
(a) ni chaniateir i’r person hwnnw gael ei gollfarnu o dramgwydd o dan reoliadau diogelwch mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anwaith y mae’r ymgymeriad yn ymwneud â hi neu ag ef,
(b) ni chaiff yr awdurdod gorfodi osod unrhyw gosb ariannol benodedig ar y person hwnnw y byddai ganddo fel arall y pŵer i’w gosod yn rhinwedd paragraff 2 mewn cysylltiad â’r weithred honno neu’r anwaith hwnnw, ac
(c) ni chaiff yr awdurdod gorfodi osod unrhyw ofyniad yn ôl disgresiwn ar y person hwnnw y byddai ganddo fel arall y pwˆ er i’w osod yn rhinwedd paragraff 4 mewn cysylltiad â’r weithred honno neu’r anwaith hwnnw.
(5) Caiff y rheoliadau :(ymhlith pethau eraill) gynnwys darpariaeth—
(a) am y weithdrefn i wneud ymgymeriad;
(b) am delerau ymgymeriad;
(c) am gyhoeddi ymgymeriad gan awdurdod gorfodi;
(d) am amrywio ymgymeriad;
(e) am amgylchiadau pryd y caniateir ystyried bod person wedi cydymffurfio ag ymgymeriad;
(f) am fonitro cydymffurfiaeth ag ymgymeriad gan awdurdod gorfodi;
(g) am ardystio gan awdurdod gorfodi y bu cydymffurfio ag ymgymeriad;
(h) am apelau yn erbyn gwrthod rhoi’r cyfryw ardystiad;
(i) mewn achos pan fo person wedi rhoi gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn mewn perthynas â’r ymgymeriad, am i’r person hwnnw gael ei ystyried yn un nad yw wedi cydymffurfio ag ef;
(j) mewn achos pan fo person wedi cydymffurfio yn rhannol ond ddim yn llawn ag ymgymeriad, i’r gydymffurfiaeth rannol gael ei chymryd i ystyriaeth wrth osod unrhyw gosb droseddol neu gosb arall ar y person;