Tudalen:Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
(k) at ddibenion galluogi cychwyn achos troseddol yn erbyn person mewn cysylltiad â mynd yn groes i’r gofyniad neu’r cyfyngiad os digwydd i ymgymeriad gael ei dorri neu i ran ohono gael ei thorri;
(l) i estyn unrhyw gyfnod pryd y caniateir cychwyn yr achos hwnnw ynddo.

Cyfuno cosbau

12 Ni chaniateir gwneud darpariaeth o dan y paragraffau a bennir mewn cofnod yng ngholofn 1 o’r tabl a ganlyn mewn perthynas â’r un math o doriad o reolau diogelwch oni bai bod yr amodau cyntaf a’r ail amodau a roddir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 2 a 3 yn cael eu bodloni.

TABL

Colofn 1

Paragraffau o'r Atodlen hon

Colofn 2

Yr Amod Cyntaf

Colofn 3

Yr Ail Amod

Paragraffau 2 a 4 Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn wedi ei osod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r un toriad. Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad

y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo—

(a) cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r un toriad, neu
(b) y person wedi ei ryddhau ei hun o'i atebolrwydd i dalu cosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r toriad yn unol â pharagraff 3
Paragraffau 2 a 7 Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 3(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo hysbysiad stop wedi ei gyflwyno mewn perthynas â'r un toriad. Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo hysbysiad stop wedi ei gyflwyno mewn perthynas â'r un toriad. Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad stop i berson mewn perthynas â thoriad pan fo—
(a) cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r un toriad, neu
(b) y person wedi ei ryddhau ei hun o'i atebolrwydd i dalu cosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r toriad yn unol â pharagraff 3(1(b).
Paragraffau 4 a 7 Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo hysbysiad stop wedi ei gyflwyno mewn perthynas â'r un toriad Rhaid i'r ddarpariaeth sicrhau na chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad stop i berson mewn perthynas â thoriad pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn wedi ei osod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r un toriad