Tudalen:Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu am ddiogelwch ar gludiant a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir at ddibenion sicrhau bod plant yn mynychu mannau lle y cânt eu haddysgu neu eu hyfforddi; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae’r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Mawrth 2011 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 10 Mai 2011, yn deddfu’r darpariaethau a ganlyn:—

1 Gofyniad am wregysau diogelwch ar fysiau a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr

Ar ôl adran 14 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

"Diogelwch ar gludiant i ddysgwyr

14A Gofyniad am wregysau diogelwch ar fysiau a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr

(1) Rhaid i gorff perthnasol sicrhau bod pob bws a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae’n ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall yn un y mae gwregys diogelwch wedi ei ffitio i bob sedd deithiwr.
(2) Rhaid i berson sy’n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol sicrhau bod pob bws a ddefnyddir ar gyfer cludiant o’r fath yn un y mae gwregys diogelwch wedi ei ffitio i bob sedd deithiwr.
(3) Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (2) yn cyflawni tramgwydd ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
(4) Mae’n amddiffyniad i ddangos bod y methiant i gydymffurfio ag is-adran (1) neu (2) wedi ei gyfiawnhau oherwydd amgylchiadau eithriadol.
(5) Nid oes dim yn yr adran hon i’w ddehongli fel petai’n gosod safonau technegol ar gyfer gwneuthuriad neu gyfarpar cerbyd sy’n wahanol i’r safonau a fyddai neu a allai fod yn gymwys mewn modd arall i’r cerbyd hwnnw yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu unrhyw ofyniad yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd sy’n uniongyrchol gymwysadwy.
(6) Yn yr adran hon—