Tudalen:Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Adennill costau 14 :(1) Caiff darpariaeth o dan baragraff 4 gynnwys darpariaeth i awdurdod gorfodi ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i berson y gosodir gofyniad yn ôl disgresiwn arno dalu’r costau yr aeth yr awdurdod gorfodi iddynt mewn perthynas â gosod y gofyniad yn ôl disgresiwn hyd at yr amser y gosodwyd ef.

(2) Yn is-baragraff (1), mae’r cyfeiriad at gostau yn cynnwys yn :(ymhlith pethau eraill)—
(a) costau ymchwilio;
(b) costau gweinyddu;
(c) costau cael cyngor arbenigol ::(gan gynnwys cyngor cyfreithiol).
(3) Rhaid i ddarpariaeth o dan y paragraff hwn sicrhau, mewn unrhyw achos pryd y cyflwynir hysbysiad sy’n gwneud talu costau yn ofynnol—
(a) bod yr hysbysiad yn pennu’r swm sydd i’w dalu;
(b) y gellir ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod gorfodi ddarparu dadansoddiad manwl o’r swm hwnnw;
(c) nad yw’r person y mae’n ofynnol iddo dalu costau yn atebol am dalu unrhyw gostau a ddangosir gan y person fel rhai yr aethpwyd iddynt yn ddiangen;
(d) bod y person y mae’n ofynnol iddo dalu costau yn cael apelio yn erbyn—
(i) penderfyniad yr awdurdod gorfodi i osod y gofyniad i dalu costau;
(ii) penderfyniad yr awdurdod gorfodi am swm y costau hynny.
(4) Caiff darpariaeth o dan y paragraff hwn gynnwys y ddarpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 13(1)(b) ac (c) a (2).
(5) Rhaid i ddarpariaeth o dan y paragraff hwn sicrhau ei bod yn ofynnol i’r awdurdod gorfodi gyhoeddi canllawiau am sut y bydd yr awdurdod gorfodi yn arfer y pŵer a roddir gan y ddarpariaeth.

Apelau

15 :(1) Ni chaiff rheoliadau ddarparu am apelio ac eithrio i—

(a) y Tribiwnlys Haen Gyntaf, neu
(b) tribiwnlys arall a grëwyd o dan ddeddfiad :(o fewn ystyr adran 14H(5)).
(2) Yn is-baragraff (1)(b) nid yw “tribiwnlys” yn cynnwys llys barn arferol.
(3) Os yw’r rheoliadau yn darparu am apêl mewn perthynas â gosod unrhyw ofyniad neu gyflwyniad unrhyw hysbysiad, cânt gynnwys—
(a) darpariaeth sy’n atal y gofyniad neu’r hysbysiad dros dro wrth aros i’r apêl ddod i ben;
(b) darpariaeth am bwerau’r tribiwnlys yr apelir iddo;
(c) darpariaeth am sut y mae adennill unrhyw swm sy’n daladwy yn unol â phenderfyniad gan y tribiwnlys hwnnw.