Tudalen:Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

20 Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr ::(cymru) 2011 :(mccc 6)

(4) Mae’r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff :(3)::(b) yn cynnwys darpariaeth sy’n rhoi i’r tribiwnlys yr apelir iddo bŵer—
(a) i dynnu’r gofyniad neu’r hysbysiad yn ôl;
(b) i gadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad;
(c) i gymryd y camau y gallai’r awdurdod gorfodi eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anwaith sy’n arwain at y gofyniad neu’r hysbysiad;
(d) i anfon y penderfyniad ynghylch p’un ai i gadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, yn ôl i’r awdurdod gorfodi;
(e) i ddyfarnu costau.

Cyhoeddusrwydd am osod cosbau sifil

16 :(1) Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n galluogi awdurdod gorfodi i roi hysbysiad cyhoeddusrwydd i berson y gosodwyd cosb sifil arno yn unol â rheoliadau o dan yr Atodlen hon.

(2) Mae “hysbysiad cyhoeddusrwydd” yn hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person roi cyhoeddusrwydd—
(a) i’r ffaith bod y gosb sifil wedi ei gosod, a
(b) i unrhyw wybodaeth arall a bennir yn y rheoliadau, mewn unrhyw ffordd a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Caiff y rheoliadau ddarparu i hysbysiad cyhoeddusrwydd—
(a) pennu amser i gydymffurfio â’r hysbysiad, a
(b) ei gwneud yn ofynnol i’r person y rhoddir ef iddo roi tystiolaeth i’r awdurdod gorfodi ei fod wedi cydymffurfio erbyn yr amser a bennir yn yr hysbysiad.
(4) Caiff y rheoliadau ddarparu, os bydd person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio, bod awdurdod gorfodi yn cael—
(a) rhoi cyhoeddusrwydd i’r wybodaeth y mae’n ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd iddi gan yr hysbysiad, a
(b) adennill costau gwneud hynny oddi wrth y person hwnnw. Personau sy’n agored i gosbau sifil

17 Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth am y personau sy’n agored i gosbau sifil o dan yr Atodlen hon a chânt :(ymhlith pethau eraill) ddarparu—

(a) i swyddogion corff corfforaethol fod yn atebol yn ogystal â’r corff corfforaethol ei hun, a
(b) i bartneriaid partneriaeth fod yn atebol yn ogystal â’r bartneriaeth ei hun, yn yr amgylchiadau a bennir.

Canllawiau ynghylch defnyddio cosbau sifil

18 :(1) Pan fo pŵer yn cael ei roi i awdurdod gorfodi gan y rheoliadau i osod cosb sifil mewn perthynas â thoriad o reoliadau o dan yr Atodlen hon, rhaid i’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer sicrhau bod—