Gwirwyd y dudalen hon
- (a) rhaid i’r awdurdod gorfodi gyhoeddi canllawiau am ddefnydd yr awdurdod gorfodi o’r gosb sifil,
- (b) rhaid i’r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol,
- (c) rhaid i’r awdurdod gorfodi adolygu’r canllawiau pan fo hynny’n briodol,
- (d) rhaid i’r awdurdod gorfodi ymgynghori â’r bobl a bennir yn y ddarpariaeth cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau wedi eu hadolygu, ac
- (e) rhaid i’r awdurdod gorfodi roi sylw i’r canllawiau neu i’r canllawiau wedi eu hadolygu wrth arfer swyddogaethau’r awdurdod gorfodi.
- (2) Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth am—
- (a) yr amgylchiadau pryd y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod,
- (b) yr amgylchiadau pryd na chaniateir gosod y gosb,
- (c) swm y gosb,
- (d) sut y caniateir i berson ei ryddhau ei hun o’r gosb ac effaith y rhyddhad hwnnw, ac
- (e) hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.
- (3) Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â gofyniad yn ôl disgresiwn, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth am—
- (a) yr amgylchiadau pryd y mae’r gofyniad yn debygol o gael ei osod,
- (b) yr amgylchiadau pryd na chaniateir gosod y gofyniad,
- (c) yn achos cosb ariannol amrywiadwy, y materion y mae’n debygol y cânt eu cymryd i ystyriaeth gan yr awdurdod gorfodi wrth benderfynu swm y gosb
- (gan gynnwys, pan fo hynny’n berthnasol, unrhyw ddisgownt am adrodd yn wirfoddol am fethu â chydymffurfio), a
- (d) hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio. Cyhoeddi camau gorfodi
19 :(1) Pan fo pŵer yn cael ei roi i awdurdod gorfodi gan y rheoliadau i osod cosb sifil mewn perthynas â thorri rheoliadau diogelwch, rhaid i’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer, yn ddarostyngedig i’r paragraff hwn, sicrhau bod rhaid i’r awdurdod gorfodi gyhoeddi adroddiadau o bryd i’w gilydd sy’n pennu—
- (a) yr achosion pryd y gosodwyd y gosb sifil, a
- (b) pan fo’r gosb yn gosb ariannol benodedig, yr achosion pryd y rhyddhawyd yr atebolrwydd i dalu’r gosb yn unol â pharagraff 3:(1)::(b).
- (2) Yn is-baragraff :(1)::(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion pryd y gosodwyd y gosb sifil yn cynnwys achosion pan fo’r gosb sifil wedi ei gosod ond wedi ei gwrthdroi ar apêl.
- (3) Nid oes angen i’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pwˆ er sicrhau’r canlyniad yn is-baragraff (1) mewn achosion pan fo’r awdurdod perthnasol yn ystyried y byddai’n anaddas i wneud hynny.