Tudalen:Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
ystyr “bws” yw cerbyd modur sydd wedi ei wneuthur neu wedi ei addasu i gario mwy nag wyth o deithwyr ar eu heistedd yn ychwanegol at y gyrrwr;
ystyr “deddfiad” yw unrhyw un o’r canlynol, pryd bynnag y’i pasiwyd neu y’i gwnaed—
(a) Deddf Seneddol;
(b) is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Seneddol;
(c) darpariaeth mewn unrhyw Ddeddf neu is-ddeddfwriaeth o’r fath;
ystyr “gwregys diogelwch” yw gwregys sydd wedi ei fwriadu ar gyfer ei wisgo gan berson mewn cerbyd ac sydd wedi ei ddylunio i atal neu leihau anafiadau i’r sawl sy’n ei wisgo os bydd damwain i’r cerbyd.”.

2 Rhagor o ddarpariaethau ar gyfer y disgrifiadau o gerbydau y caniateir eu defnyddio yn gludiant i ddysgwyr

Ar ôl adran 14A o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

{{canoli|“Diogelwch ar gludiant i ddysgwyr

14B Rhagor o ddarpariaethau ar gyfer y disgrifiadau o gerbydau y caniateir eu defnyddio yn gludiant i ddysgwyr

(1) Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach er mwyn—
(a) ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sicrhau mai dim ond cerbydau o ddisgrifiadau rhagnodedig a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall;
(b) ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol ddefnyddio cerbydau o ddisgrifiadau rhagnodedig yn unig;
(c) darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.
(2) Caiff rheoliadau o dan baragraffau (a) a (b) o is-adran (1) ddisgrifio cerbydau drwy gyfeirio at wneuthuriad, cyfarpar neu nodweddion eraill cerbyd.”.

3 Recordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyr

Ar ôl adran 14B o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

“14C Recordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyr

(1) Caiff rheoliadau—
(a) ei gwneud yn ofynnol i drefniadau rhagnodedig gael eu gwneud i recordio delweddau gweledol neu sain o ddigwyddiadau sy’n digwydd ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol;