Gwirwyd y dudalen hon
- (b) darparu ynghylch defnyddio, storio a chadw delweddau gweledol neu sain a recordir ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir gan gorff perthnasol;
- (c) darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.
- (2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) roi pwerau neu ddyletswyddau ar unrhyw un o’r canlynol—
- (a) corff perthnasol;
- (b) person sy’n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.
- (3) Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) awdurdodi na’i gwneud yn ofynnol bod recordio yn digwydd mewn ffordd sydd wedi ei chynllunio i sicrhau nad yw personau sy’n ddarostyngedig iddo yn gwybod ei fod neu y gall fod yn digwydd.”
4 Asesiad risg diogelwch o gludiant i ddysgwyr
Ar ôl adran 14C o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
“14D Asesiad risg diogelwch o gludiant i ddysgwyr
- (1) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol gynnal asesiadau risg diogelwch o’r cludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall.
- (2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—
- (a) gosod gofynion ynghylch natur yr asesiad i’w gynnal;
- (b) ei gwneud yn ofynnol i lunio a chyhoeddi adroddiadau;
- (c) rhagnodi ffurf a dull y cyhoeddi;
- (d) rhagnodi pa mor aml y mae’n rhaid cynnal yr asesiadau.”.
5 Hyfforddi gyrwyr
Ar ôl adran 14D o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
“14E Hyfforddi gyrwyr
- (1) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sy’n darparu neu yn sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu sicrhau bod gyrwyr cerbydau a ddefnyddir at y cyfryw gludiant wedi cwblhau hyfforddiant rhagnodedig i safon ragnodedig.
- (2) Caniateir rhagnodi hyfforddiant a safonau drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.
- (3) Yn yr adran hon ystyr “hyfforddiant” yw hyfforddiant am ddiogelwch ar gludiant i ddysgwyr a gweithio gyda phlant.”.