Gwirwyd y dudalen hon
- (2) Mae’r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—
- (a) pŵer i’w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n dal dogfennau neu gofnodion a gedwir yn y cerbyd neu’r fangre neu sy’n gyfrifol am y dogfennau neu’r cofnodion hynny i’w dangos hwy, a
- (b) o ran cofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, pŵer i’w gwneud yn ofynnol dangos y cofnodion ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd â hwy i ffwrdd.
- (3) Nid yw’r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—
- (a) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu
- (b) i gymryd copïau o’r cyfryw ddogfennau neu gofnodion neu i fynd â hwy i ffwrdd.
- (4) Mewn cysylltiad ag arolygu’r cyfryw ddogfennau, caiff arolygydd—
- (a) mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sydd yn ei dyb ef yn cael neu wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r dogfennau ac arolygu a gwirio gweithrediad y cyfrifiadur, y cyfarpar cysylltiedig neu’r deunydd, a
- (b) ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (5) roi unrhyw gymorth rhesymol a all fod yn ofynnol at y diben hwnnw.
- (5) Mae person o fewn yr is-adran hon—
- (a) os y person hwnnw yw’r person sy’n defnyddio’r cyfrifiadur neu a’i defnyddiodd neu’r person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur ar ei ran, neu
- (b) os yw’r person hwnnw yn berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu’n ymwneud fel arall â’u gweithrediad.
- (6) Caiff arolygydd sy’n cadw cerbyd yn gaeth neu’n mynd i gerbyd neu fangre ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw gyfleusterau neu gymorth iddo o ran materion o fewn rheolaeth y person ag sy’n angenrheidiol er mwyn ei alluogi i arfer pwerau o dan adran 14I neu’r adran hon.
- (7) Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol—
- (a) yn rhwystro arolygydd rhag arfer unrhyw bŵer o dan adran 14I neu’r adran hon, neu
- (b) yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr
adran hon,
- yn euog o dramgwydd ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.”.
11 Y pŵer i fynnu gwybodaeth
Ar ôl adran 14J o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—