Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynglŷn â statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru; i ddarparu ar gyfer Cyngor Partneriaeth y Gymraeg; i sefydlu Swydd Comisiynydd y Gymraeg; i ddarparu ar gyfer Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg; i wneud darpariaeth ynglŷn â hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg ac ynglŷn â pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; i wneud darpariaeth ynglŷn â safonau'n ymwneud â'r Gymraeg (gan gynnwys dyletswyddau i gydymffurfio â'r safonau hynny, a hawliau sy'n deillio o allu gorfodi'r dyletswyddau hynny); i wneud darpariaeth ynglŷn ag ymchwilio i ymyrraeth â'r rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg; i sefydlu Tribiwnlys y Gymraeg; i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a chynlluniau iaith Gymraeg; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 7 Rhagfyr 2010 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 9 Chwefror 2011, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:

RHAN 1

STATWS SWYDDOGOL Y GYMRAEG

1 Statws swyddogol y Gymraeg

(1) Mae statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru.
(2) Heb ragfarnu egwyddor gyffredinol is-adran (1), rhoddir effaith gyfreithiol i statws swyddogol y Gymraeg drwy gyfrwng deddfiadau ynghylch y canlynol—
(a) dyletswyddau ar gyrff i ddefnyddio'r Gymraeg, a'r hawliau sy'n deillio o allu gorfodi'r dyletswyddau hynny, sy'n galluogi siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith yn ymwneud y cyrff hynny â hwy (megis darparu gwasanaethau gan y cyrff hynny);
(b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg;
(c) dilysrwydd defnyddio'r Gymraeg;
(d) hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg;
(e) rhyddid personau sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg i wneud hynny gyda'i gilydd;
(f) creu swydd Comisiynydd y Gymraeg; ac
(g) materion eraill sy'n ymwneud â'r Gymraeg.