Prawfddarllenwyd y dudalen hon
RHAN 2
COMISIYNYDD Y GYMRAEG
Y Comisiynydd
2 Comisiynydd y Gymraeg
- (1) Bydd yna Gomisiynydd y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel "y Comisiynydd").
- (2) Rhaid i Brif Weinidog Cymru benodi'r Comisiynydd.
- (3) Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â'r Comisiynydd.
- (4) Am ddarpariaeth ynglŷn ag uniondeb cymeriad y Comisiynydd, gweler Pennod 1 o Ran 8.
Dyletswydd gyffredinol
3 Prif nod y Comisiynydd
- (1) Prif nod y Comisiynydd wrth arfer ei swyddogaethau yw hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg.
- (2) Mae'r camau y mae'n rhaid i'r Comisiynydd eu cymryd wrth arfer swyddogaethau yn unol ag is-adran (1) yn cynnwys gweithio tuag at gynyddu'r canlynol (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt)—
- (a) defnyddio'r Gymraeg yng nghyswllt darparu gwasanaethau, a
- (b) cyfleoedd eraill i bersonau ddefnyddio'r Gymraeg.
- (3) Wrth arfer swyddogaethau'n unol ag is-adran (1), rhaid i'r Comisiynydd roi sylw—
- (a) i statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru,
- (b) i'r dyletswyddau i ddefnyddio'r Gymraeg sydd wedi eu gosod (neu a all gael eu gosod) drwy gyfraith, a'r hawliau sy'n deillio o allu gorfodi'r dyletswyddau hynny,
- (c) i'r egwyddor na ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru, a
- (d) i'r egwyddor y dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Swyddogaethau
4 Hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
- (1) Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef—
- (a) er mwyn hybu defnyddio'r Gymraeg,
- (b) er mwyn hwyluso defnyddio'r Gymraeg, neu