Prawfddarllenwyd y dudalen hon
- (c) er mwyn gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
- (2) Mae hynny'n cynnwys gwneud unrhyw un neu ragor o'r pethau canlynol, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny—
- (a) hybu darparu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg;
- (b) annog arferion gorau o ran defnyddio'r Gymraeg gan bersonau sy'n delio â phersonau eraill, neu sy'n darparu gwasanaethau i bersonau eraill;
- (c) cadw digonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith sy'n ymwneud â'r Gymraeg o dan arolygiaeth;
- (d) llunio a chyhoeddi adroddiadau;
- (e) gwneud gwaith ymchwil neu gomisiynu eraill i'w wneud;
- (f) gwneud gweithgareddau addysgol neu gomisiynu eraill i'w gwneud;
- (g) rhoi cymorth (gan gynnwys cymorth ariannol) i unrhyw berson;
- (h) gwneud argymhellion ysgrifenedig i Weinidogion Cymru;
- (i) cyflwyno sylwadau i unrhyw berson:
- (j) rhoi cyngor i unrhyw berson.
- (3) Os yw'r Comisiynydd yn gwneud argymhelliad ysgrifenedig neu'n cyflwyno sylw ysgrifenedig, neu'n rhoi cyngor ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i'r argymhelliad, y sylw neu i'r cyngor wrth arfer unrhyw swyddogaeth y mae'n ymwneud â hi.
- (4) Mae pŵer y Comisiynydd o dan is-adran (2)(g) i roi cymorth ariannol yn ddarostyngedig i adran 11(4).
- (5) Caniateir arfer pwerau'r Comisiynydd o dan is-adran (2)(h) i (j) i wneud argymhellion neu gyflwyno sylwadau neu i roi cyngor i berson (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) p'un a wnaeth y person hwnnw gais i'r Comisiynydd arfer y pwerau ai peidio.
- (6) Caiff y Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth a roddir gan yr adran hon.
5 Cynhyrchu adroddiadau 5-mlynedd
- (1) Rhaid i'r Comisiynydd, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, lunio adroddiad 5mlynedd ar sefyllfa'r Gymraeg yn y cyfnod hwnnw.
- (2) Yn y Mesur hwn, cyfeirir at adroddiad o'r fath fel "adroddiad 5-mlynedd".
- (3) Os yr adroddiad cyntaf o'i fath i gael ei lunio ar ôl cyfrifiad yw adroddiad 5-mlynedd, rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—
- (a) adroddiad ar ganlyniadau'r cyfrifiad i'r graddau y maent yn ymwneud â'r Gymraeg;
- (b) asesiad o oblygiadau'r canlyniadau hynny i sefyllfa'r Gymraeg.
- (4) Nid yw is-adran (3) yn cyfyngu ar y materion y caiff y Comisiynydd eu cynnwys
mewn unrhyw adroddiad 5-mlynedd.
- (5) Yn yr adran hon—