Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ystyr "cyfnod adrodd" ("reporting period") yw—
- (a) y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw adran 2 i rym ac sy'n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2015; a
- (b) pob cyfnod olynol o 5 mlynedd; ystyr "cyfrifiad" ("census") yw cyfrifiad a wnaed o dan Ddeddf Cyfrifiad 1920 yng Nghymru (p'un a wnaed y cyfrifiad hefyd mewn man heblaw Cymru ai peidio).
6 Adroddiadau 5-mlynedd: atodol
- (1) Wrth baratoi pob adroddiad 5-mlynedd—
- (a) rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori, a
- (b) caiff y Comisiynydd ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn ei dyb ef.
- (2) Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- (3) Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cyfnod y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef ddod i ben.
- (4) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd, rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.
- (5) Rhaid i Weinidogion Cymru—
- (a) archwilio pob adroddiad 5-mlynedd a gyflwynir iddynt, a
- (b) gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
7 Ymholiadau
- (1) Caiff y Comisiynydd gynnal ymholiad i unrhyw fater sy'n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd.
- (2) Ond mae hynny'n ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (5).
- (3) Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad mewn achos—
- (a) lle y caiff y Comisiynydd, neu lle y mae'n rhaid iddo, gynnal ymchwiliad safonau o dan Bennod 8 o Ran 4, neu
- (b) lle y mae'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad o dan Ran 5 (nad yw'n ei derfynu).
- (4) Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad i'r methiant, gan un neu ragor o bersonau penodol, i gydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor.
- (5) Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad i'r ymyrraeth, gan un neu ragor o bersonau penodol, â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg (ond gweler Rhan 6 am bŵer i ymchwilio i ymyrraeth benodol â'r rhyddid hwnnw).
- (6) Nid yw is-adran (4) neu (5) yn atal y Comisiynydd rhag ystyried ymddygiad un neu ragor o bersonau penodol pan fydd yn cynnal ymchwiliad—
- (a) i fethiant i gydymffurfio â gofynion perthnasol, neu