Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
(b) i ymyrraeth â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg.
(7) Caiff y Comisiynydd—
(a) terfynu, neu
(b) atal,

ymholiad, neu unrhyw agwedd ar ymholiad.

(8) Os bydd y Comisiynydd yn ystod ymholiad yn dechrau amau y gall person fod wedi methu â chydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor—
(a) wrth iddo barhau â'r ymholiad, rhaid i'r Comisiynydd, i'r graddau y bo'n bosibl, osgoi ystyried ymhellach a yw'r person wedi methu â chydymffurfio â'r gofynion ai peidio,
(b) caiff y Comisiynydd gychwyn ymchwiliad i'r cwestiwn hwnnw o dan Ran 5, ac
(c) caiff y Comisiynydd ddefnyddio gwybodaeth neu dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymholiad at ddibenion yr ymchwiliad.

(9) Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth atodol ynglŷn ag ymholiadau.

(10) Yn yr adran hon mae i gyfeiriad at fethiant i gydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor yr un ystyr ag yn Rhan 5.

8 Adolygiad barnwrol ac achosion cyfreithiol eraill

(1) Caiff y Comisiynydd gychwyn achos cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, neu ymyrryd mewn achos o'r fath, os yw'n ymddangos i'r Comisiynydd fod yr achos yn un sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.
(2) O ran is-adran (1)—
(a) nid yw'n creu sail i achos, a
(b) mae yn ddarostyngedig i unrhyw derfyn neu gyfyngiad a osodir yn rhinwedd deddfiad neu yn unol ag ymarferiad llys.
(3) Yn yr adran hon, mae'r ymadrodd "achos cyfreithiol" yn cynnwys achosion gerbron unrhyw lys neu dribiwnlys, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny.

9 Cymorth cyfreithiol

(1) Caiff y Comisiynydd ddarparu cymorth i unigolyn os yw'r person hwnnw yn barti, neu os gall y person hwnnw ddod yn barti, i achos cyfreithiol gwirioneddol neu achos cyfreithiol posibl yng Nghymru a Lloegr sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.
(2) Nid yw'r adran hon yn effeithio ar unrhyw gyfyngiad a osodir mewn cysylltiad â chynrychiolaeth—
(a) yn rhinwedd deddfiad, neu
(b) yn unol ag ymarferiad llys neu dribiwnlys.
(3) Y Comisiynydd sydd i ddyfarnu, at ddibenion yr adran hon, a oes achos cyfreithiol posibl sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.