Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
(4) Yn yr adran hon—
mae "achos cyfreithiol" ("legal proceedings") yn cynnwys achos gerbron unrhyw lys neu dribiwnlys, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny; mae "cymorth" ("assistance") yn cynnwys y pethau a ganlyn, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—
(a) cyngor cyfreithiol;
(b) cynrychiolaeth gyfreithiol;
(c) cyfleusterau i setlo anghydfod.

10 Cymorth cyfreithiol: costau

(1) Mae'r adran hon yn gymwys—
(a) os yw'r Comisiynydd wedi cynorthwyo unigolyn o dan adran 9 mewn perthynas ag achos, a
(b) os bydd yr unigolyn hwnnw'n ennill yr hawl i gael rhywfaint neu'r cyfan o'i gostau yn yr achos (boed yn rhinwedd dyfarniad neu yn rhinwedd cytundeb).
(2) O ran treuliau'r Comisiynydd wrth ddarparu'r cymorth—
(a) cânt eu codi ar symiau a delir i'r unigolyn ar ffurf costau, a
(b) gellir eu gorfodi fel dyled sy'n ddyladwy i'r Comisiynydd.
(3) Mae gofyniad i dalu arian i'r Comisiynydd o dan is-adran (2) yn dod islaw gofyniad a osodir yn rhinwedd adran 11(4)(f) o Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999 (adennill costau mewn achosion a gyllidir).
(4) At ddibenion is-adran (2), mae treuliau'r Comisiynydd i'w cyfrifo'n unol â darpariaeth a wneir (os o gwbl) gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw drwy reoliadau.
(5) Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (4) ddarparu, ymhlith pethau eraill, ar gyfer

dyrannu gwariant a dynnir gan y Comisiynydd—

(a) yn rhannol at un diben ac yn rhannol at ddiben arall, neu
(b) at ddibenion cyffredinol.

11 Pwerau

(1) Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef mewn cysylltiad ag unrhyw un o'i swyddogaethau.
(2) Mae hynny'n cynnwys gwneud unrhyw un neu ragor o'r canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—
(a) rhoi grantiau a benthyciadau a rhoi gwarantau;
(b) codi ffi am roi cyngor neu am wasanaethau eraill;
(c) talu trydydd partïon am roi cyngor neu am wasanaethau eraill;
(d) derbyn rhoddion ar ffurf arian neu eiddo arall;
(e) caffael neu waredu unrhyw eiddo neu hawl.
(3) Mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) i (6).